Yn y bennod hon, rydym yn ymweld â Fferm Hardwick ger Y Fenni i gwrdd â’r ffermwr llaeth, David Jones, ac Ymgynghorydd Gwasanaethau Technegol Genus, Patrick Spencer. Mae David a Patrick yn esbonio manteision defnyddio technoleg “feed face” Genus i fonitro ymddygiad y fuwch wrth fwydo a'i hymddygiad cyffredinol. Ar hyn o bryd mae'r fferm yn treialu’r dechnoleg i ddarganfod a all ragweld clefydau cyn geni, a thrwy hyn, a yw’n gallu cynyddu nifer y gwartheg sy’n gyflo 100 diwrnod ar ôl lloia.